Amserlenni trenau Cymru a’r DU

Edrychwch ar ein hamserlenni trenau cyn i chi deithio er mwyn osgoi unrhyw beth annisgwyl.

Weithiau, bydd angen i ni gyflwyno amserlenni newydd neu dros dro pan fo gwaith gwella hanfodol ar y gweilch, neu os oes unrhyw broblemau’n codi ar y rhwydwaith. Gwiriwch a oes unrhyw newidiadau i amserau’ch trên a chysylltiadau â gwasanaethau gweithredu trenau eraill cyn ichi deithio.

Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar ein ap trenau sy’n darparu gwybodaeth yn fyw ynglŷn ag amserau trên a’ch taith ddiweddaraf.

Ein cynllunydd teithiau

Ein ap trenau

 

 

 

Newidiadau i amserlenni’r Metro

Gall amserlenni newid hefyd oherwydd gwaith o drawsnewid y metro ar draws ein rhwydwaith. Ewch i’n tudalen am y gwaith o drawsnewid y metro i gael rhagor o wybodaeth.

Gwaith trawsnewid y Metro

 

Newidiadau i’r amserlen yn sgil gweithredu diwydiannol

Gall streiciau a gweithredu diwydiannol effeithio ar amserlenni trenau. I gael y manylion diweddaraf am streiciau trafnidiaeth, ewch i’n tudalen gweithredu diwydiannol.

 

Ad-daliadau yn sgil newidiadau i amserlenni

Os ydych chi eisoes wedi prynu tocynnau ar gyfer gwasanaethau sy’n cael eu heffeithio gan newidiadau, byddwch chi’n gallu defnyddio eich tocynnau ar wasanaethau trên eraill TrC. Fel arall, gallwch chi wneud cais am ad-daliad drwy fynd i’n tudalen ad-daliadau.

Ad-daliadau

 

Gwnewch yn siŵr bod gennych chi’r wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau i amseroedd trenau, addasiadau a theithiau sydd wedi cael eu canslo gan ddefnyddio ein cynllunydd teithiau.